We would like to place cookies on your computer to help us make this website better. To find out more about the cookies see our privacy notice.



Gwastraff yw un o'r materion pwysicaf mae'r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn ei wynebu. Mae defnyddio mwy o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu a chyfyngu gymaint â phosib ar wastraff y broses adeiladu a dymchwel yn hanfodol i greu amgylchedd mwy cynaliadwy. Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru sy'n darparu rhaglen wastraff Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym wrthi yn addysgu, yn hysbysu, yn herio, ac yn helpu pawb yng nghadwyn gyflenwi'r amgylchedd adeiledig i sicrhau y bydd 85 y cant neu fwy o'r gwastraff a gynhyrchir gan y sectorau adeiladu a dymchwel yng Nghymru yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Cysylltwch â ni i gael gwybod sut gallwn ni eich helpu i dorri lawr ar wastraff, ailddefnyddio deunyddiau ac arbed arian.
Rydym yn canolbwyntio ar saith maes strategol i sicrhau gwelliant arwyddocaol yn swm y gwastraff a gynhyrchir mewn prosesau adeiladu a dymchwel sy'n cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.
Gallwch ffonio'r tîm i gael cyngor neu i ymgynghori ar unrhyw un o'r meysydd hyn neu gydag ymholiadau cyffredinol am reoli gwastraff ac ailgylchu. Rydym yn cynnal digwyddiadau, seminarau a gweithdai rheolaidd, ac mae ein Rhaglen Arddangos yn amlygu arfer gorau wrth leiafu gwastraff ac ailddefnyddio deunyddiau. Porwch yn y tudalennau yn adran gwastraff y wefan i gael gwybodaeth fwy penodol am ein rhaglen a sut gallwn ni eich helpu.