Cwmpawd Gwyrdd

Cyfeirio Gwastraff

Mae'r diwydiant gwastraff yn newid. Nid yw bellach yn canolbwyntio ar lenwi tyllau yn y ddaear. Mae'r diwydiant wedi sylweddoli bod adennill yr adnoddau a geir mewn gwastaff yn gallu darparu cyfleoedd. Yn wir, mae gwastraff yn dechrau cael ei ystyried yn adnodd ynddo'i hun. Mewn ymateb i'r symudiad hwn, mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru wedi datblygu mecanwaith i alluogi cyrff rheoli gwastraff i ddangos eu perfformiad mewn modd cymaradwy, y gellir ei ddilysu'n annibynnol.

Y diwydiant gwastraff oedd y man cychwyn pendant ar gyfer y broses o ddatblygu PAS 402:2009 a Chynllun Cwmpawd Gwyrdd. Roeddem yn ffodus bod gennym ddeg corff rheoli gwastraff neilltuol a fu, ar hyd y cyfnod peilot, yn darparu safbwynt hanfodol y diwydiant a chefnogaeth amhrisiadwy

WasteManagement       WasteProducer